TCST Sir Y Fflint - Y cyfan sydd angen i chi ei wybod!
Beth yw TCST Sir y Fflint?
Mae TCST Sir y Fflint yn wasanaeth newydd i bobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol Sir y Fflint. Mae’r gwasanaeth yn galluogi’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc i anfon gwybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd yn Sir y Fflint. Mae TCST Sir y Fflint wedi’i ddatblygu o ganlyniad i’r hyn y mae plant a phobl ifanc Sir y Fflint wedi’i ddweud wrthym.
Pa fath o negeseuon fyddaf yn eu derbyn os ydw i’n cofrestru?
Pobl Ifanc (12+)
Fel unigolyn ifanc, gallwch gofrestru i gael gwybodaeth am bynciau o’ch dewis. Byddwn hefyd yn anfon unrhyw negeseuon pwysig atoch am ddigwyddiadau a gwybodaeth arall am Sir y Fflint a allai fod yn bwysig i chi.
Rhiant
Byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am bynciau yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer yn ogystal â digwyddiadau a gwybodaeth ddefnyddiol arall yn seiliedig ar oedran eich plentyn hynaf.
Gweithiwr proffesiynol
Byddwn yn anfon gwybodaeth atoch am y pynciau yr ydych wedi cofrestru ar eu cyfer yn ogystal â gwybodaeth am gyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a allai eich helpu yn eich gwaith.
Sut fyddaf yn gwybod pan ydw i wedi cael neges?
Bydd y negeseuon a dderbyniwch gan y gwasanaeth hwn yn dod gan ‘txtflints’
A allaf dderbyn negeseuon yn y Gymraeg?
Gallwch! Os cofrestrwch i dderbyn negeseuon Cymraeg, gallwn eu hanfon atoch yn y Gymraeg.
Pam fod angen i mi roi gwybodaeth i chi a beth fyddwch yn ei wneud gyda’r wybodaeth honno?
Mae angen eich gwybodaeth arnom er mwyn gofalu ein bod yn anfon y wybodaeth gywir atoch. Efallai y byddwn yn clywed am rywbeth sy’n digwydd yn eich ardal leol neu ddigwyddiadau sydd ond ar gael i bobl o’ch oedran chi.
A allaf anfon neges destun yn ôl at wasanaeth TCST Sir y Fflint?
Dim ar hyn o bryd mae arnaf ofn. Efallai y bydd hyn yn newid yn y dyfodol, ond os hoffech gysylltu â ni gyda chwestiwn neu ymholiad, ffoniwch y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ar 01352 704147 neu anfonwch e-bost at wefan fflintyrifanc. Os oes angen gwybodaeth arnoch am bwnc penodol heblaw am TCST Sir y Fflint, gallwch ffonio’r Siop Wybodaeth ar 01352 717818, lle bydd gweithwyr gwybodaeth hyfforddedig ar gael i’ch helpu.
Faint fydd hyn yn ei gostio i mi?
Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Ni fydd raid i chi dalu cost stamp i anfon eich ffurflen gofrestru atom hyd yn oed!
Sut allaf gofrestru?
Gallwch gofrestru trwy lenwi un o’r ffurflenni cofrestru. Gallwch gael gafael ar y ffurflenni mewn ysgolion a llyfrgelloedd lleol a nifer o leoedd eraill. Gallwch hefyd ffonio 01352 704147 i ofyn i ni anfon un atoch. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw llenwi’r ffurflen, gofalu ei bod yn sownd gyda’i gilydd a’i phostio atom. Ni fydd angen stamp arnoch.
Gallwch lawrlwytho’r ffurflenni oddi ar yma. Ar ôl i chi argraffu’ch ffurflen, gallwch naill ai ei rhoi at ei gilydd gyda thâp gludiog neu ei rhoi mewn amlen ac ysgrifennu’r cyfeiriad arni. Eto, ni fydd angen stamp arnoch – mae’r cyfan yn rhad ac am ddim.
Pwy sy’n rheoli’r gwasanaeth?
Rheolir y gwasanaeth gan Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir y Fflint. Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys gwahanol wasanaethau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yn Sir y Fflint a’i hafod yw ceisio gwneud pethau’n haws i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd a gwella gwasanaethau ar eu cyfer. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar www.fflintyrifanc.co.uk
Sut allaf roi’r gorau i dderbyn negeseuon?
Os hoffech roi’r gorau i dderbyn negeseuon ar unrhyw adeg, ffoniwch 01352 704147 a gallwn dynnu eich enw oddi ar y rhestr.
Beth sy’n digwydd os yw fy rhif yn newid?
Rhowch wybod i ni os ydych yn cael rhif ffôn newydd. Gallwch wneud hyn trwy ffonio 01352 704147. O dro i dro, byddwn yn gwirio bod ein holl negeseuon yn eich cyrraedd. Os gwelwn nad yw eich blwch negeseuon yn derbyn ein negeseuon, byddwn yn gwneud ein gorau i gysylltu â chi i wirio bod eich rhif yn dal i fod yr un fath. Os na allwn gael gafael arnoch, yr unig ddewis fydd gennym fydd dileu eich manylion.
Diogelu Data
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn cadw, storio, defnyddio a/neu brosesu unrhyw ddata personol a gyflenwir gennych yn ôl yr angen er mwyn cynnal ein swyddogaethau cyhoeddus a statudol ac yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a’i egwyddorion. Ni fyddwn yn datgelu nac yn rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau allanol oni bai fod gennym hawl i wneud hynny neu os yw hynny’n ofynnol gan y gyfraith.
Os oes angen unrhyw wybodaeth bellach neu help arnoch, cysylltwch â (nid oes angen stamp):
TCST Sir y FflintRHADBOST NWW7807A
Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc
Safle 3
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
CH7 6ND
Ffôn: 01352 704147 / 702634
E-bost: emma_jones@flintshire.gov.uk neu debbie.roberts@flintshire.gov.uk




