Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Ailgylchwch eich beic!

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 09/08/2011 am 09:49
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Hinsawdd, Pobl, Gweithgareddau Gwyliau Ysgol, Materion Cyfoes, Gwirfoddoli

  • Bike Beic

Fel rhan o’r Diwrnod Rhyngwladol Chwarae mae Hilary McGuill, Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, wedi lansio menter ailgylchu beiciau yng Ngronant Den. Gronant Den yw Parc Chwarae Antur Gogledd Gwledig Sir y Fflint, ac mae wedi ei gofrestru gydag Arolygaeth Gwasanaethau Gofal a Chymdeithasol Cymru (AGGCC).

Mae Gronant Den yn hybu chwarae anturus, dan arweiniad y plant eu hunain, ond mae’n cael ei hyrwyddo gan weithwyr chwarae cymwysedig. Mae’r Cynghorydd McGuill yn awyddus i annog aelodau o’r cyhoedd i gyfrannu’r beiciau nad ydynt eu hangen mwyach i’r cynllun ailgylchu, lle gallent gael eu defnyddio fel rhan o brofiadau chwarae plant a phobl ifanc.

Dywedodd y Cynghorydd McGuill: "Mae gan lawer ohonoch, rwy’n siwr, feiciau sy’n gweithio’n iawn, yn llenwi eich garej a’ch sied, ac yn rhy fach i’ch plant neu eich wyrion a’ch wyresau, ond maent yn rhy dda i’w taflu allan.

"Rwy’n apelio ar drigolion i ailgylchu’r beiciau hynny naill ai drwy eu rhoi i blentyn neu i deulu mewn angen rydych yn eu hadnabod neu ffonio’r Gweithiwr Chwarae Cymunedol, Ruth Jones, sy’n fecanig beic cymwysedig, i drefnu am bwynt casglu lle gallwch adael y beiciau ac, ar ôl eu gwirio, gellir eu defnyddio yn ein Cynlluniau Chwarae.

"Gall beic sy’n rhydlyd a llychlyd yn eich tyb chi gynnig byd o gyfleoedd i blentyn."

Os oes gennych feic yr hoffech ei gyfrannu i’n cynllun Ailgylchu Beiciau, cysylltwch â Ruth Jones, Gweithiwr Chwarae Cymunedol, ar 07824 498445.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.