Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Awdur plant enwog yn llongyfarch plant ysgol lleol am ddod â'i stori'n fyw yn Clwyd Theatr Cymru

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 13/07/2011 am 14:34
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Pobl, Llwyfan

  • y plant a gymerodd ran yn sioe ‘The Snow Spider’ yn Clwyd Theatr Cymru yn ddiweddar, gydag awdur y llyfr, Jenny Nimmo.
  • y plant a gymerodd ran yn sioe ‘The Snow Spider’ yn Clwyd Theatr Cymru yn ddiweddar, gydag awdur y llyfr, Jenny Nimmo.
  • y plant a gymerodd ran yn sioe ‘The Snow Spider’ yn Clwyd Theatr Cymru yn ddiweddar, gydag awdur y llyfr, Jenny Nimmo.

Roedd y plant ysgol o Sir y Fflint a fu’n perfformio yn y sioe ‘The Snow Spider’ yn Clwyd Theatr Cymru yn ddiweddar, wrth eu boddau o glywed bod rhywun pwysig iawn yn y gynulleidfa, sef awdur y llyfr, Jenny Nimmo!

Cafodd y stori ei haddasu ar gyfer y llwyfan gan yr awdur proffesiynol Janys Chambers a bu disgyblion Ysgol y Llan, Chwitffordd, Ysgol Trelogan ac Ysgol Gronant yn ei pherfformio’n ddiweddar fel rhan o Raglen Celfyddydau Ysgolion Sir y Fflint.

Yn ôl paur newydd y Guardian mae ‘The Snow Spider,’ gan Jenny Nimmo, yn ‘stori ffantasi hyfryd’ ac enillodd Wobr Smarties (1986) a Gwobr Tir na n-Og (1987) am y llyfr Saesneg gorau i blant. Mae stori ‘The Snow Spider’ yn ffefryn ymhlith plant ers hynny.

Mae’r stori hudolus hon wedi’i gosod yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif, ac mae’n troi o amgylch bachgen o’r enw Gwyn sy’n cael anrhegion annarferol ar ei ben-blwydd yn naw oed. Bydd y rhain yn ei arwain ar daith i ddarganfod ai dewin ydyw, a byddant yn ei helpu i ddatrys dirgelwch diflaniad ei chwaer, Bethan.

Ad-drefnodd Jenny ei hamserlen brysur i wneud yn siwr ei bod yn gweld y cynhyrchiad yn Clwyd Theatr Cymru. Dywedodd Jenny: “Cefais fy nghyfareddu gan berfformiad y bobl ifanc. Rwy’n llongyfarch bob un ohonynt.”

Caiff y cynhyrchiad ei ariannu gan Gyngor Sir y Fflint a Chyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o rhaglen datblygu’r celfyddydau yn ysgolion Sir y Fflint.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.