Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Cyfleusterau campau eithafol a sba yn cyrraedd Glannau Dyfrdwy

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 26/10/2011 am 10:29
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Diwylliant, Iechyd, Pobl, Chwaraeon a Hamdden

  • 1
  • 2

Mae Cyngor Sir y Fflint, mewn partneriaeth ag Alliance Leisure, wedi dechrau gwaith ar brosiect gwerth miliynau o bunnoedd yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, Queensferry. Dyma fydd y cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd parth campau eithafol dan do yn agor ei ddrysau cyn pen ychydig fisoedd.

Bydd yno faes byrddau sgrialu mawr a bydd y parth campau eithafol yn cynnwys amrywiol rampiau a neidiau cyffrous ar gyfer beicwyr BMX, sgrialfyrddwyr a sglefrolwyr. Bydd yn un o’r powlenni sglefrio mwyaf ym Mhrydain.

Bydd y ganolfan hefyd yn atyniad mawr i ddringwyr gyda 80 metr sgwâr o wyneb dringo gan gyrraedd uchafswm uchder o bedwar metr ar gyfer bowldro. Bydd y wal yn rhoi cyfle i bobl o bob gallu, o lwybrau hawdd i’r rhai mwy technegol ac anodd sy’n bargodi, yn ogystal â thwr dringo saith metr i gyflwyno’r gamp i ddringwyr newydd. Bydd cwrs rhaffau bum metr uwchben y llawr hefyd.

Fel rhan o’r cyfadeilad, mae Alliance Leisure hefyd yn datblygu’r sba dydd cyhoeddus cyntaf yng Nghymru a fydd yn cynnwys pedair ystafell driniaeth a chyfleuster gwres mawr. Bydd hwn yn cynnwys sawna perlysiau, ystafell ager grisial, groto halen, ystafell arogl, sba trin troed, iglw, cawodydd arbennig, pwll sba, cadeiriau lolian wedi’u gwresogi ac ardal ymlacio.

Meddai’r Cynghorydd Dennis Hutchinson, yr Aelod Gweithredol dros Hamdden a Gwarchod y Cyhoedd yng Nghyngor Sir y Fflint: "Mae’r cynllun yn darparu’r elfen derfynol fydd yn gwella’r ganolfan hamdden orau yng Ngogledd Cymru. Roedd y camau cynharach yn cynnwys cwblhau campfa newydd, ystafelloedd iachuso, stiwdios a chaeau chwarae allanol dan lifoleuadau. Mae caeau pêl-droed, sy’n defnyddio'r tywarch 3G diweddaraf, eisoes wedi profi’n llwyddiannus, gan ddarparu cyfleusterau pêl-droed ar gyfer oedolion a thimau iau."

Bydd cael mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a mwynhau manteision ymarfer corff rheolaidd yn creu llawer o fanteision cymdeithasol ac o ran iechyd i gymuned Sir y Fflint. Ychwanegodd y Cyng. Hutchinson: "Mae’r bartneriaeth ag Alliance Leisure wedi ein galluogi i greu cyfleuster chwaraeon newydd sy’n groesawgar, yn ysbrydoli pobl ac yn bleser i ymweld ag ef. Hefyd, rydym wedi gallu diwallu’r amrywiaeth o anghenion hamdden sydd gan ein cymuned leol. Cyn pen ychydig fisoedd, byddwn yn agor drysau ein cyfleusterau campau eithafol a sba."

Ar gyfer gwybodaeth bellach ewch i www.siryfflint.gov.uk/hamdden neu ffoniwch Ganolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy ar y rhif 01244 845440.

Cyfweliad Gyda Sglefriwr

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.