Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Diwrnod Coffa’r Holocost

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 19/01/2012 am 15:17
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Ysgrifennu Creadigol, Diwylliant, Gwyl, Pobl, Materion Cyfoes

  • DCH

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal digwyddiad i nodi Diwrnod Coffa’r Holocost 2012, a hynny ar 27 Ionawr.

Mae adran y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint a Menter Iaith Sir y Fflint i greu rhaglen ddiddorol a theimladwy’n gydnaws â’r thema eleni, sef ‘Dweud eich Dweud, Dweud eich Barn’. Bydd perfformiad o’r ddrama, ‘Hil-laddiad’, a ysgrifennwyd ac a ddatblygwyd yn Gymraeg a Saesneg gan bobl ifanc Fforwm Ieuenctid Sir y Fflint.

Bydd hefyd Stomp Barddoniaeth i bobl ifanc rhwng 13 ac 19 ar y thema ‘Gwahaniaethu, Hil-laddiad a’r Holocost’. Bydd y gynulleidfa, y teuluoedd a’r ffrindiau’n pleidleisio am y gerdd fuddugol, a chaiff honno ei phostio ar wefan cyngor Sir y Fflint, ar dudalennau’r Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau.

Cynhelir Diwrnod Coffa’r Holocost ddydd Gwener 27 Ionawr, am 7pm yn Neuadd Ddinesig Cei Connah, a bydd croeso i bawb ddod i’r perfformiad di-dâl hwn, gan bobl ifanc dalentog i godi ymwybyddiaeteh ac i anfon neges glir am wahaniaethu’n annheg.

Os hoffai unrhyw berson ifanc rhwng 13 ac 19 oed gymryd rhan yn y digwyddiad cyffrous hwn, neu ymuno yn y Stomp, dylent gysylltu â Beth Ditson, Swyddog Digwyddiadau Cymunedol ar 01352 702472.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.