Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Fflah Mob

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 30/06/2011 am 09:27
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Dawns, Cerddoriaeth, Pobl, Materion Cyfoes

Fflah Mob Dydd Sadwrn 23 o Orffennaf yn y Fflint - Ar gyfer pob oed

Beth ydi Fflash Mob?

Fflash Mob ydi grwp mawr o bobl o bob oed sydd yn ymgynnull yn sydyn mewn lle cyhoeddus ac yn perfformio dawns am gyfnod byr ac yna yn chwalu. Maent yn hynod o hwyl ac wedi cael eu cynnal ar draws y byd ac rydym yn dod a Fflash Mob i Fflint dydd Sadwrn y 23 o Orffennaf 2011!

Byddwn yn falch petaech yn cymeryd rhan yn y digwyddiad gwefreiddiol, arbennig, cyfrinachol yma sydd wedi ei drefnu fel rhan o ddathliadau Crocheni a Ffwrneisi yr Olympiad Diwylliannol.

Rydym eisiau tadau, mamau, plant, cyfeillion a theuluoedd i gymeryd rhan! Felly dewch i roi tro arni yn yr ymarfer ar dydd Gwener y 22 o Orffennaf a o 6.30-8.00yh a dydd Sadwrn 23 o Orffennaf am  10.00-11.30yb yng Nghanolfan Chwaraeon y Pavilion yn y Fflint (mae rhaid eich bod yn gallu dod i’r ddau ymarfer).

Bydd perfformiadau o’r Fflash Mob yn digwydd ar dydd Sadwrn y 23 o Orffennaf 2011! Am 12.00yp ac am 1.00yp mewn lleoliad cyfrinachol yn y Fflint. Byddwn yn egluro manylion am y diwrnod yn yr ymarfer. Edrychwn ymlaen eich gweld yn yr ymarfer Am fwy o wybodaeth neu i gadw lle cysylltwch a: Gwenno Jones ar 01352 702471

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.