Croeso i Fflintyr Ifanc! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Galw am bobl ifanc i gymryd rhan yng nghynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru yn Llaneurgain

Postiwyd gan infinvflints o Sir y Fflint - Cyhoeddwyd ar 16/08/2011 am 11:03
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth, Llwyfan

Ddydd Gwener 4 Tachwedd 2011, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn dod a’i chynhyrchiad o ‘The Village Social’ i Sir y Fflint ac i Neuadd Goffa Edith Banks yn Llaneurgain.

Rydym yn chwilio am bobl ifanc rhwng 15 a 21 oed i fod yn rhan o ‘The Village Social’. Bydd angen iddynt fod yn hapus i ganu mewn grwp a bod yn rhan o gân sy’n cynnwys ychydig o waith coreograffi syml. Nid yw hynny’n golygu bod angen i chi fod yn gallu dawnsio, ond rhaid i chi fod yn hapus i symud yn gorfforol. Bydd cymryd rhan yn golygu ymrwymo i ambell ymarfer lle byddwch yn dysgu un neu ddwy gân ar eich cof, a chymryd rhan mewn gorymdaith a rhai rhannau o’r sioe.

Os oes gennych chi neu’ch grwp ddiddordeb, anfonwch e-bost at admin@nationaltheatrewales.org

Caiff y perfformiad hwn ei gydlynu gan Adran y Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyfarwyddiaeth Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir y Fflint, ar y cyd â Chynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.

Cymerwch ychydig o funudau i gwblhau'r arolwg hon. Bydd hyn yn helpu ni i ffeindio allan sut yr ydych chi'n defnyddio'r wefan fel ein bod ni'n gallu dal ati i'w gwella ar eich cyfer chi.