Gwobrau Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2012
Enwebwch eich arwyr yn y byd chwaraeon – Gwobrau Personoliaeth Chwaraeon Sir y Fflint 2012 Wyddoch chi am bobl sydd wedi rhagori yn y byd chwaraeon dros y flwyddyn ddiwethaf, neu sydd wedi rhoi o’u hamser i hyfforddi, i wirfoddoli ac i drefnu chwaraeon ar lawr gwlad? Os felly, ewch ati i’w henwebu ar gyfer Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Sir y Fflint. Mae Cyngor Chwaraeon Sir y Fflint a Chwaraeon Sir y Fflint yn cynnig y gwobrau am y bumed flwyddyn, ac eleni, mae deg categori: Pencampwr Iau (dan 18) Pencampwraig Iau (dan 18) Pencampwraig Hyn (dros 18) Pencampwr Hyn (dros 18) Tîm y Flwyddyn (pob oed) Clwb Cymunedol y Flwyddyn (pob oed) Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn (dan 18) Gwirfoddolwr y Flwyddyn (dros 18) Hyfforddwr y Flwyddyn (pob oed) Gwasanaeth i Chwaraeon Gall unrhyw un enwebu unigolyn, tîm neu glwb os ydynt yn teimlo’u bod yn haeddu cydnabyddiaeth am eu llwyddiant / ymroddiad. Yna, bydd cynrychiolwyr o Gyngor Chwaraeon Sir y Fflint, Chwaraeon Sir y Fflint ac Airbus UK yn tynnu rhestr fer. Gwahoddir y rhai ar y rhestr fer i noson wobrwyo nodedig nos Wener 4 Mawrth 2012 yn Clwyd Theatr Cymru ynghyd â’r noddwyr a phobl amlwg, am noson gofiadwy. Dywedodd Sian Williams, Rheolwr Chwaraeon Sir y Fflint : "Mae traddodiad cryf iawn yn Sir y Fflint o gynhyrchu athletwyr a thimau llwyddiannus, o safon uchel. Hefyd, mae gennym rwydwaith rhagorol o wirfoddolwyr a hyfforddwyr cymunedol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i Chwaraeon Cymunedol yn Sir y Fflint. Yn ystod y noson wobrwyo, cawn gyfle i longyfarch ein perfformwyr gorau a chydnabod gwaith caled yr hyfforddwyr, y trefnwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud y cyfan yn bosibl." Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener 4 Tachwedd 2011 am 5pm. Hoffem ddiolch i’n prif noddwyr, sef Airbus UK am eu cefnogaeth barhaus ac am sicrhau bod y digwyddiad nodedig hwn yn bosibl. Os hoffai unrhyw fusnes neu sefydliad noddi un o’r categorïau, mae croeso iddynt gysylltu â Helen Hughes, Gweinyddwr Chwaraeon ar 01352 702461. Mae ffurflenni enwebu ar gyfer pob categori ar gael gan Chwaraeon Sir y Fflint, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6ND. Ffoniwch 01352 702641, neu anfonwch e-bost at helen_hughes@flintshire.gov.uk neu gallwch eu llwytho oddi ar wefan Cyngor Sir y Fflint:: www.siryfflint.gov.uk/chwaraeonsiryfflint






