Y Frwydr O Atal Dweud
English version
Mae therapyddion iaith a lleferydd o Ogledd Cymru, Gail Edgley a Lisa Grader yn siarad am atal dweud a’r ffilm newydd The King’s Speech.
Mae The King’s Speech yn rhoi sbotolau gwych er mwyn siarad am atal, i fod yn ymwybodol ohono, i ddeall pa mor anodd gallai fod i blant ac oedolion, a beth i’w wneud.
Mae’n gyfle na all methu. Dyma pam rydym wedi gafael yn y cyfle ac wrth ein boddau ein bod yn trefnu arddangosiad arbennig o’r ffilm mewn partneriaeth â Clwyd Theatr Cymru.
Mae’r ffilm hefyd yn cyd-daro yn anhygoel o dda gyda’r ymgyrch 2011 Coleg Brenhinol Iaith a Lleferydd – ‘Giving Voice’.
Mae’r ffilm yn tynnu ti mewn yn syth gyda Colin Firth yn portreadu brwydr Brenin George VI i oresgyn y cyflwr lleferydd efryddol yn ddilys iawn, yn llwyddo i ennill gwobr Golden Globe yn barod.
Yn annhebyg i ffilmiau fel A Fish Called Wanda (gyda Michael Palin), sydd yn defnyddio atal ar gyfer chwarddiadau creulon, dyma ffilm am atal dweud dyn o statws, urddas a chymeriad gyda llais i’w glywed – sydd ddim yn wan na’n od.
Pan ofynnwyd, “Sut lwyddwyd i gael hyn mor gywir?” gan Norbert Liekfeldt o’r Gymdeithas Atal Dweud Prydeinig, atebodd Colin Firth:
“Dwi wedi cael y cwestiwn yma nifer gwaith. Mae’n bwysig dros ben i mi os wyt ti’n cyfeirio at fater go iawn fel hwn, dwi’n teimlo fy mod yn gorfod gwneud hyn er mwyn fy hun ac i unrhyw un sydd yn brwydro gydag ef, i fod mor ddilys â phosib. Mae’n anhygoel, os wyt ti yn mynd i mewn i fater fel hyn, faint o bobl sydd yn dweud wrthyt eu boent nhw efo fo, wedi cael o, mae’n mrawd i efo fo, neu fy nghefnder.”
Rydym eisiau i bobl wybod fod oddeutu 720,000 o oedolion a phlant ym Mhrydain ei hun yn atal, ond dim ond ychydig o’r broblem rydym ni’n ei weld a’i glywed. Beth sydd ddim yn cael ei weld ydy’r ddirboen emosiynol, y meddyliau negyddol a’r ymddygiad osgoi sydd wedi’i guddio o dan y wyneb.
Cyfnewid geiriau, hyd yn oed archebu bwyd mewn bwyty dim ond am dy fod yn gallu dweud y geiriau yna, gwrthod cyfle gyrfa am fod rhaid i ti siarad o flaen grŵp, cilio cymdeithasol ac yn syml ddim yn siarad o gwbl i helpu amddiffyn person o’r boen, yr embaras a’r ymdrech creulon o siarad.
Y broblem yw bod pobl yn barnu ac yn cyhuddo’r cyflwr. Gall plentyn ddod yn flin ac yn rhwystredig yn sydyn, yn enwedig pan fydd plant eraill yn dechrau sylwi, ac yn mynd o fod yn hyderus iawn i fod eisiau chwarae ar ben ei hunain a byth yn siarad.
Mae plant a phobl ifanc yn dod yn ddioddefwyr hawdd o brofocio a bwlio, yn cael eu rhoi i’r ochr yn sydyn a datblygu problemau mawr mewn hyder isel a hunan werth gwael. Mewn gwirionedd gallai achosi lot mawr o bryder ac anhapusrwydd trwy gydol bywyd.
Felly beth gall ei wneud? Nid oes un achos na theori o atal, ac nid yw pawb yn ei etifeddu yn enetig. Yn ffodus mae Therapi Lleferydd yn gallu bod o help mawr i’r cyflwr.
Mae hyn yn enwedig o wir i blant mor ifanc â thri a gall ei atal nhw ddiflannu’n gyfan gwbl. Efallai na fydd ymyriad yn oedran ysgol, ar ôl chwech neu saith oed neu hwyrach, wella’r cyflwr yn gyfan gwbl, ond mae’n cynnig yr elw o leihau’r symptomau corfforol ac yn aml yr effaith seicolegol, cymdeithasol, addysgiadol ac economaidd mae atal yn ei gael.
Yn trosglwyddo Rhaglenni Llithrigrwydd wedi’i phersonoli yn y gwasanaeth oedolion, rydym wedi cael dynes 30 oed yn penderfynu cychwyn nyrsio ar ôl gwrthod cynt, doctor yn sefyll yn hyderus i roi cyflwyniadau a pherson 20 oed yn gwneud galwad ffôn am y tro cyntaf. Dim ond ychydig o’r llwyddiannau ydy'r rhain.
Ond mae profiad therapi iaith a lleferydd heddiw yn dra gwahanol i’r profiad sydd yn cael ei ddangos yn y ffilm – felly paid disgwyl cael dy annog i regi neu ddal marblis yn dy geg!
Mae anadlu asennol a diaffram yn dal yn sgil allweddol sydd yn cael ei ddysgu yn ogystal ag ymlacio cyhyrau tyn, ond mae dulliau eraill fel lleferydd esmwyth, dull acennu, ystyriaeth, NLP a’r dyfeisiau digidol fewn yn y clust fel SpeechEasy yn cael eu defnyddio a’u datblygu ar hyn o bryd.
10 Awgrym os wyt ti’n dod ar draws plentyn neu oedolyn gydag atal dweud:
1. Bydda’n dawel ac yn amyneddgar
2. Rho amser (seibiant)
3. Lleihau pwysau / gofynion
4. Paid â siarad drostynt na gorffen brawddegau
5. Sylweddola / talu sylw at pan maen nhw'n rhugl yn barod
6. Edrycha i’w llygaid yn naturiol – paid edrych i ffwrdd
7. Dangos diddordeb yn beth sydd yn cael ei ddweud a ddim sut
8. Siarada’n arafach, ymlacio fwy ac anadla’n rhydd
9. Paid â’i wneud yn fater mawr. Mae’n iawn i atal
10. Trin yn gyfartal gydag urddas a pharch
Gyda’r holl doriadau yn yr hinsawdd ariannol bresennol mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn cofio ac yn darparu ar gyfer anghenion y bobl sydd ddim yn gallu lleisio eu barn oherwydd eu hanhwylder siarad.
Llongyfarchiadau i bawb oedd yn rhan o wneud The King’s Speech, yn benodol Colin Firth, y cyfarwyddwr Tom Hooper a’r ysgrifennydd sgrin David Seidler, a phob lwc yn yr Oscars ar ddydd Sul 27 Chwefror.
Gyda phawb yn edrych tuag at briodas y Tywysog William i Kate Middleton, mae yna hudoliaeth enfawr yn y Teulu Brenhinol a gall hynny ddim ond gwella cyfle’r ffilm hwn i ennill Gwobrau’r Academi. Os nad wyt ti wedi’i weld yn barod, ein hawgrymiad ydy i fyns a’i weld.
Bydd dangosiad arbennig o The King’s Speech yn Clwyd Theatr Cymru ar ddydd Mawrth 1 Mawrth am 1yp, gyda siarad byr am ymwybyddiaeth lleferydd a sesiwn cwestiwn ac ateb gyda phanel o arbenigwyr atal dweud a thystion yn y maes. Tocynnau yn £5.
Am wybodaeth bellach a gwybodaeth am atal dweud ymwela â www.stammering.org neu www.stammeringcentre.org. Neu gall gael dy gyfeirio am gymorth gan dy ddoctor, neu galwa’r Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd ar 01978 727073 .







