Welcome to Young Flintshire! Please sign up or login

Aelodau Clwb Ieuenctid yn gweithio i gadw Sealand yn daclus

Posted by infinvflints from Flintshire - Published on 25/08/2011 at 10:25
0 comments » - Tagged as Environment, People, School Holiday Activities

Bu gwirfoddolwyr o Glwb Ieuenctid Sealand yn torchi’u llewys ac yn casglu sbwriel o amgylch y Ganolfan Ieuenctid yn ddiweddar.

Rhoddodd aelodau’r clwb o’u hamser i gefnogi ‘r Prosiect Trefi Taclus a reolir gan Cadw Cymru’n Daclus ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a hynny drwy gasglu sbwriel ar dir y ganolfan, y parc yng nghefn y clwb a’r ardal o amgylch Orchard Way. Casglodd y grwp saith bag o sbwriel a oedd yn cynnwys caniau, poteli plastig a phapur fferins yn bennaf.

Dywedodd Helen Evans, Gweithiwr Ieuenctid, "Mae’r bobl ifanc sy’n dod i’r Clwb Ieuenctid yn awyddus i ddangos eu bod yn bobl gyfrifol a’u bod yn poeni am yr ardal. Gweithiodd y grwp yn dda i dacluso’r ardal."

Ychwanegodd Judith Wright, Gweithiwr Prosiect, " Mae Trefi Taclus yn ffordd wych o ddod â phobl leol ynghyd i wella’u hamgylchedd. Gosododd y gwirfoddolwyr o Ganolfan Ieuenctid Sealand enghraifft ardderchog i’r gymuned a gobeithio y bydd mwy yn ymuno â nhw’r ar eu prosiect nesaf."

Os hoffech ymuno â grwp neu gael rhagor o wybodaeth am Drefi Taclus, ffoniwch Judith Wright 07717 495188 neu anfonwch e-bost ati: judith.wright@keepwalestidy.org.uk

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.