Beth Ddylwn I Wneud?
Mae'r erthygl hon wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Erthygl Fwyaf Doniol yng Ngwobrau CLIC 2011.
Dwi angen ychydig o gyngor ar beth allai fod yn benderfyniad newid bywyd.
Fwi wedi amau am dipyn nawr fod fy nghariad yn gweld rhywun arall. Yr arwyddion arferol. Ffôn yn canu. Dwi'n ateb, mae rhywun yn rhoi'r ffôn i lawr. Mae hi wedi dechrau mynd allan 'efo'r genethod' llawer yn ddiweddar, er pan dwi'n gofyn pa enethod, mae hi'n dweud "Dim ond rhai genethod o'r gwaith neu goleg, ti ddim yn adnabod nhw".
Dwi bob tro yn cadw llygad allan am ei thacsi yn dod adref ond mae hi bob tro yn cerdded i lawr y dreif fel bod hi wedi cael allan o'r car rownd y gornel. Pam? Tacsi ydy o? Unwaith codais ei ffôn symudol hi fyny i weld faint o'r gloch oedd hi ac aeth hi'n wallgof a sgrechian na ddylwn i byth gyffwrdd ei ffôn eto a pam mod i'n cadw golwg arni.
Dwi erioed wedi codi'r pwnc efo fy nghariad. Dwi'n meddwl mod i'n cuddio oddi wrth y gwir ond neithiwr aeth hi allan eto, felly penderfynais ddarganfod mwy.
Cuddiais du ôl i'm nghar ac roedd hwn yn rhoi golygfa o'r stryd gyfan i mi fel gallaf weld pa gar mae hi'n cael allan ohono. Tra roeddwn ar fy nghwrcwd tu ôl i'r car sylweddolais fod rhwd o gwmpas olwyn cefn fy nghar.
Felly beth ddylwn i wneud? Ddylwn i fynd ag ef i mewn i siop drwsio ceir neu dylwn i brynu pethau o Halfords a cheisio ei drwsio fy hun?










