Welcome to Young Flintshire! Please sign up or login

Cynllun Plant a Phobl Ifanc DRAFFT 2011-2014

Posted by infinvflints from Flintshire - Published on 04/01/2011 at 13:44
0 comments » - Tagged as People, Topical

Cynllun strategol tair blynedd yw’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc, a’i nod yw ymdrin â meysydd blaenoriaeth a diwallu anghenion holl blant a phobl ifanc Sir y Fflint.

Mae’r Cynllun yn ystyried pob agwedd ar fywydau plant, o’r cyfnod cyn eu geni nes y byddant yn 25 oed. Mae hefyd yn cynnwys materion rhianta a materion yn ymwneud â theuluoedd. Mae angen i asiantaethau a gwasanaethau gydweithio i ddelio â’r materion hyn - ni all  yr un asiantaeth neu wasanaeth ddelio â meysydd blaenoriaeth ar eu pennau eu hunain.   

Y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc sy’n arwain y gwaith o roi’r Cynllun ar waith. 

Wrth i gynllun  2008-11 ddirwyn i ben, mae cynllun newydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer 2011-14.  Mae’r Cynllun drafft wedi’i ddatblygu gyda chyfraniadau gan blant, pobl ifanc a theuluoedd a llawer o’r gwasanaeth a’r sefydliadau sy’n gweithio ar eu rhan. 

O ganlyniad i’r gwaith hwn, nodwyd cyfres newydd o ganlyniadau  arfaethedig, a hoffem wybod beth rydych chi’n ei feddwl ohonynt a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i’w gwireddu.

 

Caiff yr holl wybodaeth a gesglir ei hystyried wrth ddatblygu’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc newydd 2011-14.

 

Crynodeb o’r canlyniadau arfaethedig i’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc 2011-14 

Trwy weithio tuag at bob un o’r pethau hyn, gobeithiwn y bydd plant, pobl ifanc a theuluoedd yn Sir y Fflint mor hapus ag y gallant fod.

Mae plant a phobl ifanc yn cael gofal.

Bydd pob plentyn yn Sir y Fflint yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.  Trwy ddal problemau’n gynnar, gallwn eu hatal rhag troi’n broblemau mwy yn y dyfodol.

Mae plant a phobl ifanc yn barod, yn gallu ac yn cael eu hannog i ddysgu.

Bydd pob plentyn ac unigolyn ifanc yn Sir y Fflint yn cael llawer o wahanol gyfleoedd i ddysgu, boed hynny yn yr ysgol neu’r coleg neu’r tu allan, fel bo modd iddynt ddatblygu sgiliau i’w defnyddio trwy gydol eu bywydau.

Mae plant a phobl ifanc yn byw bywydau iachach ac maent yn hapus!

Dylid diogelu iechyd plant a phobl ifanc.  Caiff bywydau iach eu hybu a bydd gwasaanethau ar gael i helpu’r rheiny sy’n sâl, sydd ag anabledd neu unrhyw anawsterau eraill.

Mae plant a phobl ifanc yn cael amser a lle i chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau.

Mae gan blant a phobl ifanc hawl i chwarae a chymryd rhan mewn llawer o weithgareddau hwyliog a chwaraeon eraill.

Mae plant a phobl ifanc yn cael eu parchu ym mhob rhan o’u bywydau.

Mae gan blant a phobl ifanc hawl i gael eu clywed pan fo penderfyniadau sy’n effeithio arnynt yn cael eu gwneud.

Mae plant a phobl ifanc yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn.

Caiff plant a phobl ifanc eu hamddiffyn rhag pethau a allai eu hatal rhag tyfu a datblygu.  Bydd cymorth ar gael i deuluoedd i’w helpu i ymdopi ag unrhyw anawsterau y maent yn eu hwynebu.

Mae gan blant, pobl ifanc a theuluoedd adnoddau sydd eu hangen arnynt i gynyddu eu cyfleoedd.

Bydd teuluoedd, plant a phobl ifanc yn Sir y Fflint yn gallu cael y gorau allan o fywyd a chyrraedd eu potensial, hyd yn oed pan nad oes ganddynt bob amser ddigon o arian.

 

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i holi ymhellach, cysylltwch ag Emma Jones, Swyddog Gwybodaeth a Chyfranogiad, y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc ar 01352 704147.

 

Cynllun Plant a Phobl Ifanc DRAFFT 2011-2014

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.