Welcome to Young Flintshire! Please sign up or login

Ewch ar ras i’ch llyfrgell ar gyfer Pythefnos Llyfrgelloedd

Posted by infinvflints from Flintshire - Published on 01/11/2011 at 11:33
0 comments » - Tagged as Art, Comedy, Creative Writing, Education, People, Stage

  • JB1
  • JB2

Mae Llyfrgelloedd Cymru’n annog pawb i fynd ar ras i’w llyfrgelloedd yn ystod pythefnos cyntaf mis Tachwedd. Mae Pythefnos Llyfrgelloedd yn cynnwys rhaglen o ddigwyddiadau am ddim ar gyfer y teulu cyfan mewn llyfrgelloedd a chymunedau lleol ledled Cymru gyfan.

Y thema sy’n cysylltu’r holl ddigwyddiadau yw rhaglen Olympiad Diwylliannol Llundain 2012 sy’n ysbrydoli creadigrwydd ar draws pob math o ddiwylliant, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

Yn Sir y Fflint, bydd y diddanwr syrcas James Bazley yn ymweld â llyfrgell yn agos i chi. Mae gan James ymhell dros ddeng mlynedd o brofiad rhyngwladol proffesiynol ar ôl graddio o Ysgol Syrcas blaenllaw Ewrop, Circomedia. Wedi ei achredu gan Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, mae gan James ddiploma mewn Sgiliau Syrcas a Theatr Gorfforol. Mae wedi ymddangos nifer o weithiau ar Blue Peter, Hollyoaks, Don't Tell The Bride, ac wedi dysgu’r wlad i jyglo yn fyw ar CBeebies. Mae hefyd wedi perfformio yn Y Babell Fawr yng Ngwyl Glastonbury ac yng Nghonfensiwn Jyglo Yr Iseldiroedd.

Bydd James yn ymweld â llyfrgelloedd yn Sir y Fflint ar y dyddiadau isod:

Dydd Sadwrn 5 Tachwedd: Galw Heibio i Ddigwyddiad Sgiliau Syrcas

Llyfrgell Mancot, 10am – 12 canol dydd

Llyfrgell Cei Connah, 1pm - 3pm

Dydd Sadwrn 12 Tachwedd: Galw Heibio i Ddigwyddiad Sgiliau Syrcas

Llyfrgell y Fflint, 10am - 12 canol dydd

Llyfrgell Yr Wyddgrug Mold, 1pm - 3pm

Mae’r digwyddiadau am ddim.

Hefyd, ar Ddydd Sadwrn 5 Tachwedd, dewch i gwrdd â Ceci Jenkinson, awdur plant adnabyddus, a fydd yn Llyfrgell Mynydd Isa rhwng 10 am a 12 canol dydd a Llyfrgell Yr Hob rhwng 1pm a 3pm. Mae’r digwyddiadau hyn am ddim hefyd.

Ceci yw awdur 'Oli and Skipjack’s Tales of Trouble', sy’n gyfres hynod o boblogaidd ar gyfer rhai rhwng 7 ac 11 oed gan Faber a Faber. Enillodd The Mum Shop (Faber a Faber, 2008) gategori'r Nofel Fyrrach 2009 Gwobrau Llyfrau Plant Sheffield. Roedd Gnomes are Forever (Faber a Faber, 2009) ar restr fer Gwobr Llyfrau Plant Waterstones 2009. Ganed Ceci yn Aberhonddu ac mae’n byw yng Ngogledd Cymru ar hyn o bryd.

Dywedodd Pennie Corbett, Prif Lyfrgellydd (Llyfrgelloedd a Chelfyddydau Cymunedol) yng Nghyngor Sir y Fflint: "Mae’r digwyddiadau hyn yn rhai cyffrous sy’n cael eu cynnal yn ystod Pythefnos Llyfrgelloedd, sydd am ddim ac yn helpu ysbrydoli, annog a gwella creadigrwydd pobl Sir y Fflint."

Dywedodd Huw Lewis, y Gweinidog dros Dreftadaeth, "Mae Pythefnos Llyfrgelloedd yn gyfle da iawn i’r teulu cyfan fwynhau buddion eu llyfrgell leol. Maent nid yn unig yn cynnig ystod o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn ond maent hefyd yn cynnig y llyfrau mwyaf poblogaidd diweddaraf, mynediad am ddim i’r rhyngrwyd, DVDau, ac yn fan cychwyn da iawn os ydych yn cynnal ymchwil o unrhyw fath ar gyfer eich astudiaethau neu’n edrych i mewn i achau eich teulu.

"Mae dathliadau fel Pythefnos Llyfrgelloedd yn cwrdd â’n hymrwymiad Cymru’n Un i hyrwyddo rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus."

Ariennir digwyddiadau Pythefnos Llyfrgelloedd gan Lywodraeth Cymru..

Am fwy o fanylion ar yr holl ddigwyddiadau sy’n digwydd yn eich ardal chi galwch heibio i’ch llyfrgell leol neu ewch i www.siryfflint.gov.uk/llyfrgelloedd neu ewch i llyfrgellcymru.org

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.