Welcome to Young Flintshire! Please sign up or login

Mae'r Llychlynwyr yn dod! Ymunwch â'r rhyfelwyr yng Nghastell y Fflint - ddydd Sul 28 Awst.

Posted by infinvflints from Flintshire - Published on 22/08/2011 at 13:18
0 comments » - Tagged as History, Stage

  • vikings

Mae’r Llychlynwyr yn ymosod ar Gastell y Fflint! Dewch draw i ymuno â nhw i ddysgu sut roeddynt yn byw 1,000 o flynyddoedd yn ôl! Mae Llychlynwyr y Wirhalh Skip-Felag am sefydlu gwersyll yng nghastell y Fflint ddydd Sul 28 Awst gan ddod â hanes yn fyw drwy ddangos sut roedd y Llychlynwyr yn byw o ddydd i ddydd.

Gwyliwch y milwyr yn ymladd ac yn dysgu am eu harfau. Gwyliwch deuluoedd yn cecru a’r brwydrau’n dechrau!

Bydd y grwp i gyd yn gwisgo dillad Llychlynnaidd ac, yn ogystal ag ail-fyw brwydrau, byddant hefyd yn adrodd straeon, yn cynnal marchnad caethweision a senedd Lychlynnaidd, a byddant yn cyflwyno amrywiol berfformiadau. Bydd cyfle i ddysgu am fywyd y Llychlynwyr, gan gynnwys meddyginiaeth yn y degfed ganrif; coginio a thechnoleg bwyd; hwsmonaeth; defnyddio croen a chyrn anifeiliaid; gwneud darnau arian; bydd arddangosfa arfau a sgiliau gwaith coed.

Dywedodd Ceidwad yr Arfordir, Karen Rippin:

"Mae Castell y Fflint yn lleoliad gwych, ac mae hwn yn gyfle da i bawb ei weld ar ei orau. Rydym yn falch iawn o’r ffaith mai Castell y Fflint yw’r castell cyntaf ar Lwybr Arfordir Cymru Gyfan, a dyna pam mae Ceidwaid Arfordir Sir y Fflint wedi trefnu i’r Llychlynwyr ymosod ar yr ardal!"

Bydd y Llychlynwyr Wirhalh Skip-felag yng Nghastell y Fflint ddydd Sul 28 Awst rhwng 11 am a 4pm. Mynediad am ddim.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, ffoniwch Wasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint ym Mharc Gwepra ar 01244 814941.

Mae Castell y Fflint dan ofal Cadw, adran amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru.

Mae Wirhalh Skip-felag yn rhan o Gymdeithas Hanesyddol Regia Anglorum. Ceir rhagor o fanylion am y grwp os ewch i <http://regia.org/warfare/welswar.htm>

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.