Noson Gyda Katy Perry
Cyrhaeddom yn Lerpwl am 11 o'r gloch ar ddydd Mawrth 18 Hydref, yn ceisio cynllunio ein diwrnod yn barod i weld Katy Perry yn fyw'r noson honno.
Trwy'r dydd roeddem yn dadlau pa amser i adael o Lime Street, felly tua 12 o'r gloch aethom i lawr i'r dociau lle roeddem yn lwcus i fod ym mlaen y ciw.
Roedd ychydig o bobl yn y blaen wedi bod yn ciwio ers 9 y bore hwnnw, ac efo blancedi a chadeiriau.
Ar ôl pum awr a hanner basio roedd hi'n 6 o'r gloch. Roedd rheiliau yn cael eu rhoi allan i gadw rheolaeth o'r ffans oedd yn canu ac yn siantio caneuon Katy Perry yn uchel.
Aethom i mewn i'r arena lle cawsom gadwyn allwedd. Yn araf gwnaethom ein ffordd i flaen yr arena a methu credu ein bod reit yn y blaen, troedfeddi i ffwrdd o'r llwyfan.
Ar ôl tynnu lluniau a'r arena yn llenwi, cychwynnodd y cyngerdd a daeth yr act cefnogi ymlaen – band o'r enw Oh Land. I fod yn deg iddynt, doeddwn i erioed wedi clywed cerddoriaeth fel hyn o'r blaen – dubstep wedi'i gymysgu gyda pop ac ychydig o roc.
Yna i'm syndod daeth DJ ymlaen a chael y dorf yn symud. Doeddwn i erioed wedi gweld cymaint o ddwylo yn yr awyr. Chwaraeodd fersiwn gwrywaidd o Rolling In The Deep gan Adele a chymysgu ychydig o draciau eraill a hyd yn oed cael pawb i siantio enw Katy Perry.
Yna, allan o unlle, dyma'r llenni yn agor i ddangos y set fwyaf anhygoel welais i erioed. Roedd yn fy atgoffa o freuddwyd neu set o Alice In Wonderland. Yna, roedd tair sgrin fawr yn dangos y stori fwyaf anghyffredin o Katy yn crwydro drwy'r goedwig.
Yna ymddangosodd yng nghefn y llwyfan i berfformio'r sioe fwyaf anhygoel dwi erioed wedi'i weld, gyda llawer o ddillad a chaneuon gwahanol gan gynnwys Peacock, Hot 'N' Cold, California Girls a Circle The Drain.
Trwy'r cyngerdd roedd nifer o fideos difyrrus yn cael eu dangos yn ystod y newid dillad ac roedd goleuadau'r llwyfan yn wych. Dwi erioed wedi gweld cymaint o oleuadau yn goleuo arena lawn, yn enwedig yn ystod E.T. Roedd yna ganeuon yn cael eu canu ar bodiwm ac ar gwmwl oedd yn hedfan allan ar draws yr arena. Roedd Katy hyd yn oed yn chwarae gitâr acwstig.
Ond, wrth i'r gân ddiwethaf gyrraedd roeddwn yn rhy brysur yn recordio California Girls cyn i'm matri farw felly doeddwn i ddim yn gallu ffilmio Katy yn neidio ar wn gydag ewyn yn cael ei chwistrellu ar draws yr arena a chanon gliter yn cael ei saethu i orchuddio ni. Roedd rhaid i bawb gael y trên adref yn edrych fel, wel, fedra'i ddim esbonio beth!
Aeth pawb o'r arena yn sydyn a gwneud ein ffordd yn ôl i'r orsaf trên. Roedd y lle yn orlawn a phawb eisiau cyrraedd adref.
Ond, pam gyrhaeddom Gaer bron i'n trên gael ei ganslo, ond erbyn 1 o'r gloch roeddem wedi dod yn ôl i realiti. Roedd popeth yn teimlo fel breuddwyd.
Tudalennau Chwaraeon a Hamdden












