Welcome to Young Flintshire! Please sign up or login

Pentref Ieuenctid yn dychwelyd i Ŵyl Cei Connah

Posted by infinvflints from Flintshire - Published on 16/06/2011 at 10:50
0 comments » - Tagged as Festivals, Music, People, Topical

  • fest

Mae Gwyl Cei Connah yn cael ei chynnal am yr wythfed tro ddydd Sul 19 Mehefin o 10am ymlaen ym Mharc Gwledig Gwepra.

Cyngor Tref Cei Connah sy’n trefnu’r Wyl ddi-dâl hon ac mae’n cynnwys ffaith bleser, cystadleuaeth dawnsio Morris, gemau Smotiau a Streipiau Cadbury’s, arwerthiant cist car, stondinau a faniau lluniaeth.

Dywedodd Lisa Fearn, Rheolwr Canol Tref Cei Connah:

"Mae’n gyffrous iawn eleni gan fod gennym atyniadau newydd. Mae’r wyl yn parhau i dyfu sy’n newyddion ardderchog. Mae croeso i bawb ddod draw i ymuno yn yr hwyl! Rydym yn gweddïo am dywydd braf."

Eleni bydd Pentref Ieuenctid Fflint yr Ifanc yn dychwelyd gyda DJs, bandiau, dawnsio, stondinau gwybodaeth a gweithgareddau i’r teulu cyfan. Caiff Cynllun Plant a Phobl Ifanc 2011-14 ei lansio hefyd a chaiff pawb gyfle i ddweud eu dweud am yr hyn sy’n bwysig iddynt yn Sir y Fflint.

Bydd modd i bobl ifanc hefyd ddefnyddio gwefan Fflint yr Ifanc, sef gwefan ryngweithiol sy’n ceisio helpu pobl ifanc i hawlio’r holl bethau y mae ganddynt hawl iddynt fel pobl ifanc yng Nghymru.

Meddai’r Cynghorydd Pamela Attridge, Cadeirydd Cyngor Tref Cei Connah:

"Rwy’n falch ein bod unwaith eto’n gallu cynnal Gwyl Cei Connah sydd wedi bod yn llwyddiant mawr yn y dref ers wyth mlynedd erbyn hyn ac sydd wedi denu miloedd o bobl. Plant a phobl ifanc yw’r brif thema eleni ac, unwaith eto, bydd Pentref Ieuenctid Fflint yr Ifanc a chyrff eraill yn bresennol i helpu i roi arweiniad i bobl ifanc ar bob mathau o faterion.

"Mae’r Wyl yn ddi-dâl ac mae croeso i bawb ddod draw, i wylio neu’n bwysicach fyth, i fwynhau ac i gael hwyl."

I gael rhagor o wybodaeth am yr Wyl, ffoniwch Lisa Fearn, Rheolwr Canol Tref Cei Connah ar 07971832885 neu i gael rhagor o wybodaeth am y pentref ieuenctid cysylltwch ag Emma Murphy: emma.murphy@flintshire.gov.uk neu

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.