Welcome to Young Flintshire! Please sign up or login

Ymgyrch Peidio ag Yfed a Gyrru na Chymryd Cyffuriau a Gyrru yr Haf yn parhau

Posted by infinvflints from Flintshire - Published on 27/06/2011 at 11:02
0 comments » - Tagged as People, Topical, Travel

Mae ymgyrch i geisio lleihau’r nifer sy’n yfed a gyrru wedi gweld 2,000 o brofion anadl yn cael eu cynnal yn ystod pythefnos cyntaf mis Mehefin.

Hyd yma, mae *2,133 o bobl wedi cael prawf anadl fel rhan o’r Ymgyrch Peidiwch ag Yfed a Gyrru na Chymryd Cyffuriau a Gyrru Cymru Gyfan a lansiwyd yng Nghaernarfon ar ddydd Mercher, 1 Mehefin.

Yn ystod pythefnos cyntaf yr ymgyrch a fydd yn para am fis, arestiwyd 47 o bobl ar ôl i yrwyr fethu profion anadl wrth gael eu stopio ar ochr y ffordd.

Dywedodd yr Arolygydd Alan Hughes o Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “ Fe gyhoeddom ar ddechrau’r ymgyrch y byddem yn canolbwyntio ein hymdrechion ar dargedu gyrwyr sy'n yfed neu’n cymryd cyffuriau ac yn gyrru.

“Er gwaethaf y rhybudd hwnnw, yn ystod pythefnos cyntaf yr ymgyrch, mae 47 o yrwyr wedi eu harestio yng Ngogledd Cymru yn dilyn cynnal profion anadl ochr ffordd. Os byddant yn eu cael yn euog, bydd pob un ohonynt yn cael eu gwahardd rhag gyrru am o leiaf 12 mis, yn wynebu dirwy fawr ac fe allent golli eu swyddi."

Yn ddiweddar, arestiwyd dyn 28 oed o Rugby am fod dair gwaith dros y cyfyngiad cyfreithlon ar gyfer yfed a gyrru. Mae o bellach wedi ei gyhuddo ac wedi ei ryddhau ar fechnïaeth i ymddangos gerbron Llys Ynadon Caergybi ar ddydd Iau 7 Gorffennaf.

Ychwanegodd yr Arolygydd Hughes: “Bydd swyddogion yn parhau i weithio’n galed i ddal y rhai sy’n gyfrifol. Mae pobl sy’n yfed a gyrru yn achosi perygl iddyn nhw eu hunain, eu teithwyr a phobl eraill sy'n defnyddio'r ffordd. Bydd yr ymgyrch yn parhau, cymerwch sylw o'r rhybudd os gwelwch yn dda."

* Roedd y ffigyrau a ddefnyddiwyd yn rhai rhwng 1 a 15 Mehefin.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am bobl sy'n yfed a gyrru i'w riportio nhw drwy ffonio 101 (os yng Nghymru) neu 0845 607 1001 (Llinell Gymraeg), 0845 6071002 (Llinell Saesneg) os yr ydych yn ffonio o du allan i Gymru. Gellir hefyd ffonio Crimestoppers Cymru yn ddi-enw ar 0800 555 111.

Gallwch hefyd fynd i wefan Crimestoppers Cymru er mwyn llenwi’r ffurflen riportio ar-lein.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.